Sefydlwyd Caprice Bangor Cyf ym 1983 ar Stryd Fawr Bangor, cwmni teuluol a’i brif amcan i gyflenwi dodrefn, carpedi a gwelyau o ansawdd am brisiau rhesymol, gydag ymrwymiad i wasanaeth i’r cwsmer a bod yn ddibynadwy.
Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf rydym wedi tyfu i fod yn gwmni llwyddiannus ac yn ddiweddar rydym wedi symud i adeilad newydd ger cylchfan Tesco, Ffordd Caernarfon, Bangor.
Cwmni teulu yw’r cwmni o hyd gyda Malcolm Morris, Cadeirydd, Neal Morris, Cyfarwyddwr Rheoli, a Dominic McGrath, Cyfarwyddwr Gwerthu, yn arwain tîm gwerthu gyda phrofiad sylweddol yn y diwydiant manwerthu dodrefn.
Mae naws ein siop yn glên ac yn groesawus. Galwch heibio i edrych wrth eich pwysau ar ein dewis enfawr.